Math | pont ffordd, pont gablau, segmental bridge |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Hafren, Charles III |
Agoriad swyddogol | 5 Mehefin 1996 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | De-orllewin Lloegr |
Sir | De Swydd Gaerloyw, Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5745°N 2.7016°W |
Hyd | 5,128 ±0.5 metr |
Perchnogaeth | John Laing plc, Vinci, Bank of America, Barclays Investment Bank |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cost | 380,000,000 punt sterling |
Manylion | |
Deunydd | concrit, dur |
Pont draffordd sy'n cysylltu Cymru a Lloegr dros aber Afon Hafren yw Pont Tywysog Cymru (gynt Ail Groesfan Hafren). Fe'i hagorwyd ar 5 Mehefin 1996 i leddfu anawsterau traffig ar Bont Hafren, y groesfan gyntaf dros yr aber. Fe'i lleolir i'r de i'r bont wreiddiol.
Mae Ail Groesfan Hafren yn dwyn traffordd yr M4, oedd yn rhedeg dros Bont Hafren cyn iddi gael ei hadeiladu. Mae'r bont gyntaf yn dwyn traffordd yr M48 erbyn hyn.
Pont grog yw'r Bont Hafren gyntaf, ond mae'r ail bont yn wahanol.
Yn 2018, datganwyd bydd y bont yn cael ei hail-enwi'n Bont Tywysog Cymru i nodi pen-blwydd Siarl, Tywysog Cymru yn 70 oed. Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a'i alwodd yn "deyrnged addas".[1] Gwrthwynebai'r enw newydd gan nifer fawr o Gymry,[2] ac arwyddwyd deiseb yn gwrthwynebu'r ailenwi gan dros 38,000 (Gorffennaf 2018)[3]. Codwyd 2 arwydd, un naill pen y bont, gydag enw newydd y bont ar gost o £216,513.39